|
Sefydlwyd yr Academi Gymreig, cymdeithas genedlaethol awduron Cymru, ym 1959 yn sgil sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams, awduron Cymraeg a ddewisodd yr ansoddair 'Cymreig' yn hytrach na 'Cymraeg' i sicrhau y câi awduron a oedd yn ysgrifennu yn Saesneg, ac artistiaid eraill, eu cynnwys yn y man. Crëwyd adran Saesneg ei hiaith ym 1968 o ganlyniad i fenter gan Meic Stephens, a oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ar y cyd ag aelodau o'r Guild of Welsh Writers, grwp a oedd yn gweithio'n bennaf o Lundain.
Swyddogaeth y gymdeithas yw hyrwyddo llenyddiaeth yng Nghymru a chynorthwyo i gynnal safonau'r lenyddiaeth honno trwy gynnig fforwm i awduron. O ffynonellau cyhoeddus y daw ei nawdd yn bennaf, a bu'n annibynnol o ran ei chyfansoddiad er 1978. Mae ganddi ei swyddfeydd ei hun yng Nghaerdydd.
Ym 1998 ymgymrodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol.
|